Meistrolwch Eich Byd Digidol: Ymunwch â'n Gweithdy AM DDIM i Archwilio Fformatau Ffeiliau Digidol

Pam nad yw'n uwchlwytho? Rydyn ni i gyd wedi bod mewn sefyllfaoedd lle mae gennym ni ffeil mewn un fformat ac yna'n gorfod naill ai ei chywasgu neu ei throsi i fformat arall.
Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw, ac yn eich cyflwyno i'r gwahanol fathau o fformatau, yn esbonio eu swyddogaethau gwahanol, ac yn datgelu sut i’w defnyddio orau. Erbyn diwedd y gweithdy hwn, bydd gennych chi ddealltwriaeth gliriach o dirwedd amrywiol fformatau ffeiliau digidol ynghyd a gwybodaeth ymarferol i wneud penderfyniadau gwybodus am eu defnydd yn eich rhyngweithiadau digidol.
Beth Byddwch chi'n ei Ddysgu:

- Sgiliau deall fformatau ffeiliau digidol, trosi delweddau i fformatau gwahanol, addasu maint a datrysiad delwedd, optimeiddio delweddau i'w defnyddio ar y we, a llawer mwy!
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?

- Unigolion sydd angen defnyddio technoleg ac sydd eisiau dysgu mwy am wahanol fformatau digidol.
- Unigolion sydd am fagu hyder yn eu rhyngweithio â'r byd digidol.
- Ar gyfer dechreuwyr pur sydd am ddysgu rhywbeth newydd.
Peidiwch â cholli'r cyfle AM DDIM hwn i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i oroesi yn ein byd digidol iawn. Os nad yw hwn ar eich cyfer chi yna edrychwch ar ein cyrsiau eraill yn y gyfres. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y gweithdai dwy awr hyn, felly sicrhewch eich un chi nawr!
Ar gyfer cofrestru ac ymholiadau, cysylltwch â ni yn


