Dewiswch eich iaith

 

Teitl: Taniwch Eich Creadigrwydd gyda'n Cwrs Microgymhwyster mewn Codio Creadigol am ddim

 

 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Sut i greu delweddiadau digidol deniadol.
  • Dod yn gyfarwydd ag iaith raglennu pwerus JavaScript.
  • Dysgu sgiliau datrys problemau a meddwl cyfrifiannol newydd.

 

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • 20 awr o hyfforddiant am ddim.
  • Tystysgrif ar ôl cwblhau’r asesiad yn llwyddiannus.
  • Ennill ardystiad bathodyn digidol 10 credyd.

 

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw helpu dysgwyr i ennill sgiliau datrys problemau, creadigrwydd cyfrifiannol a meddwl cyfrifiannol wrth dynnu ar greadigrwydd a diddordebau personol dysgwyr. Byddwch yn dysgu defnyddio rhaglennu i greu delweddau a phrofiadau o'r newydd a byddwch yn dod i ddeall yn well sut mae cyfrifiaduron a chodio yn gweithio.

Byddwch yn defnyddio iaith raglennu Java Script i ddatblygu syniadau, strategaethau a gweithgareddau ar gyfer profiad codio creadigol a chyfrifiadureg atyniadol.

Mae'r sgiliau y byddwch yn eu hennill o'r cwrs hwn yn drosglwyddadwy iawn i lu o ddiwydiannau a gellir eu defnyddio i adeiladu cymwysiadau gwe, robotiaid rhaglenadwy, a/neu gelf gynhyrchiol, i enwi ond ychydig.

 

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

  • Crewyr digidol uchelgeisiol sydd am archwilio pŵer yr amgylchedd digidol.
  • Defnyddwyr cyfrifiaduron sydd am gyfuno eu doniau artistig â rhaglennu a thechnoleg.
  • Y rhai sy'n chwilio am ffordd hwyliog o “ddysgu codio”.
  • Ar gyfer dechreuwyr codio llwyr sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd.

 

Manylion y Cwrs

Mae pob cwrs yn 20 awr o hyd, yn rhedeg fel arfer dros gyfnod o 10 wythnos.

 I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â ni yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.