Teitl: Datgloi pŵer data gyda'n cwrs microgymhwyster am ddim: Rhyngweithio â data
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

- Datblygu sgiliau rhyngweithio data ymarferol ar gyfer senarios byd go iawn.
- Cymhwyso dulliau ystadegol a dadansoddiad i setiau data amrywiol.
- Ystyried goblygiadau cyfreithiol, moesegol a chymdeithasol ehangach defnyddio data.
- Archwilio dulliau arloesol o ddelweddu data yn effeithiol i wneud penderfyniadau busnes gwybodus.
Mae'r cwrs yn cynnwys:

- 20 awr o hyfforddiant am ddim.
- Tystysgrif ar ôl cwblhau’r asesiad.
- Ennill ardystiad bathodyn digidol 10 credyd.
Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sylfaenol i ddysgwyr am ryngweithio â data mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Bydd yn canolbwyntio ar gyflwyno dysgwyr i gymhwyso data a sut y gallwn annog rhyngweithio effeithiol. Fe'ch cyflwynir i gymwysiadau sylfaenol data mewn bywyd bob dydd, a byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu i gymhwyso dulliau ystadegol a dadansoddiad i setiau data.
Ar ben hynny, byddwch yn ystyried goblygiadau cyfreithiol, moesegol a chymdeithasol ehangach defnyddio data. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymestyn dyfnder eich gwybodaeth ynghylch dylunio a chyflwyno data tra hefyd yn ystyried y gynulleidfa darged.
Mae'r sgiliau y byddwch yn eu caffael o'r cwrs hwn yn drosglwyddadwy iawn i amrywiaeth o ddiwydiannau a sefyllfaoedd personol lle mae angen dadansoddi a rhyngweithio â data.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

- Darpar wyddonwyr data sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau data penodol ar gyfer effaith ar unwaith heb ymrwymo i raglen radd lawn.
- Defnyddwyr cyfrifiaduron sydd am ennill gwybodaeth gyfoes ac arbenigol i ffynnu mewn marchnad swyddi sy'n esblygu'n gyflym.
- Y rhai sy'n chwilio am ffyrdd newydd o weithio gyda data.
- Ar gyfer dechreuwyr llwyr sy'n ceisio rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Manylion y Cwrs

Mae'r holl gyrsiau yn para 20 awr, fel arfer yn rhedeg dros gyfnod o 10 wythnos.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â ni ar


